Mae Ysgol Tryfan yn benderfynol o feithrin partneriaeth glos ac adeiladol gyda rhieni’r disgyblion sydd yn dod atom. Yn wir o'r eiliad y mae plentyn yn dechrau ei addysg gyda ni - a chyn hynny mewn gwirionedd - ein nod yw sicrhau bod rhieni yn teimlo'n rhan o deulu'r ysgol.
Ein nod bob amser yw cynnwys rhieni ym mywyd yr ysgol. Darperir adroddiadau cyson a chynhwysfawr i rieni ar gynnydd eu plant a chynhelir nosweithiau rhieni ar gyfer pob disgybl fel rhan o galendr yr ysgol. (gweler y Calendr ar y wefan). Gwahoddir rhieni hefyd i holl ddigwyddiadau’r ysgol megis y noson wobrwyo, cyngherddau, sioeau, nosweithiau gyrfaoedd ac ati.
Yn Ysgol Tryfan ymfalchiwn yng nghryfder ein Corff Llywodraethol – ac wrth reswm mae llais rhieni yn gryf o fewn y Corff hwnnw, gan roi llais amlwg i rieni yng ngweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol.
Ond wedi nodi’r holl gyfleoedd ffurfiol hyn dylid pwysleisio bod drws yr ysgol wastad yn agored i rieni sydd â phryderon neu gwestiynau i'w codi ynghylch addysg a datblygiad eu plant.
Hyderwn fod Ysgol Tryfan yn rhoi gosod sylfeini cadarn ar gyfer bywyd eich plentyn – yn academaidd ac yn allgyrsiol. Gobeithiwn hefyd fod y berthynas rhyngom â chi fel rhieni yn adeiladol a chadarnhaol – ac edrychwn ymlaen yn y dyfodol i ddatblygu’r berthynas honno ymhellach.
Llawlyfr Ysgol Tryfan 2022-2023
Datganiad Preifatrwydd 2023-2024
Calendr Digwyddiadau Ysgol 2023-2024
Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr i Rieni 2021-22
Pennaeth: Dr Geraint Owen Jones
Cyfeiriad:
Ysgol Tryfan,
Lôn Powys,
BANGOR,
Gwynedd
LL57 2TU.
Rhif ffôn: 01248 352633
E-bost: swyddfa@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru
© 2023 Hawlfraint Ysgol Tryfan. Gwefan gan Delwedd