YSGOL TRYFAN
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, felly fe'ch anogwn i ddarllen y polisi hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch:
Pwy ydym ni
Mae Ysgol Tryfan ('ni') yn casglu, defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi fel ‘rheolydd data’. Wrth wneud hynny, cawn ein rheoleiddio gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol sy'n weithredol ledled yr Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys y Deyrnas Unedig) ac rydym yn gyfrifol fel 'rheolwr data' am y wybodaeth bersonol honno er dibenion y cyfreithiau hynny.
Gwybodaeth bersonol am ddisgyblion yr ydym yn ei chasglu a'i defnyddio:
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion am y dibenion a ganlyn:
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio. Dyma lle rydym yn gwneud penderfyniad yn awtomatig amdanoch chi heb ymyrraeth ddynol.
Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
Yn ogystal, yn gysylltiedig ag unrhyw ddata categori arbennig
Y rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
Casglu Gwybodaeth am Ddisgyblion
Rydym yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion drwy ffurflenni cofrestru wrth i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol ac rydym yn derbyn peth data drwy Common Transfer File (CTF) os yw plentyn yn trosglwyddo atom o ysgol arall
Er bod y rhan fwyaf o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn hanfodol, bydd peth gwybodaeth yn cael ei darparu ar sail wirfoddol
Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data, byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.
Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi'r opsiwn i chi dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Storio Data am Ddisgyblion
Rydym yn cadw data am ddisgyblion yn ddiogel am gyfnodau penodol o amser fel y dangosir yn ein rhestr cyfnodau cadw. Am ragor o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, ewch i'r polisi diogelu data ar ein gwefan www.ysgoltryfan.org
Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:
Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan
Cwmnïau perthnasol sy'n hyrwyddo ac yn gweinyddu profiadau dysgu ein disgyblion
Gwasanaethau cefnogi ieuenctid
Disgyblion 13+ oed
Pan fydd ein disgyblion yn troi yn 13 oed, byddwn hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth am ddisgyblion i'n hawdurdod lleol a / neu ddarparwr gwasanaethau cefnogi ieuenctid oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant y sawl sy'n 13-19 mlwydd oed dan adran 507B Deddf Addysg 1996.
Mae hyn yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau fel a ganlyn:
Gall rhiant neu warcheidwad wneud cais mai dim ond enw, cyfeiriad a dyddiad geni eu plentyn a gaiff eu trosglwyddo i'w hawdurdod lleol neu ddarparwr gwasanaethau cefnogi ieuenctid drwy roi gwybod i ni. Trosglwyddir yr hawl hon i'r plentyn / disgybl unwaith y mae ef/hi yn 16 oed.
Disgyblion 16+ oed
Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth benodol am ddisgyblion 16+ oed gyda'n hawdurdod lleol a / neu ddarparwr gwasanaethau cefnogi ieuenctid oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant y rhai sy'n 13-19 mlwydd oed dan adran 507B Deddf Addysg 1996.
Mae hyn yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau fel a ganlyn:
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau i bobl ifanc, ewch ar wefan ein hawdurdod lleol.
Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a'n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cymru ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol ac yn monitro cyrhaeddiad addysgol.
Mae'n ofynnol i ni gasglu data dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011.
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n Hawdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd, a Llywodraeth Cymru dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011
Pandemig COVID-19 2020
Efallai na fydd yn bosib bob amser i adlewyrchu'r holl ddefnyddiau newydd neu newidiol a wneir o ddata personol a allai ddigwydd fel ymateb i'r Pandemig COVID-19.
Mae'r data personol y gellir ei rannu yn cynnwys:
Sail Gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol
Rhannu eich data personol
Yn ystod Pandemig COVID-19, efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda:
Tîm ‘Track and Trace’ Cyngor Gwynedd at ddibenion cysylltu â phersonau a allai fod wedi bod yn agored i Coranfirws.
Gwneir hyn mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data.
Cais i gael mynediad i'ch data personol
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad i gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch ag un o'r isod:
Mae gennych hefyd yr hawl i:
Os oes gennych bryder ynglŷn â'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi godi eich pryder gyda ni i ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy https://ico.org.uk/concerns
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Mae'n bosib y bydd angen i ni ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gyfnodol, felly, argymhellwn eich bod yn ailymweld â'r wybodaeth hon o bryd i'w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf Hydref 2020
Cyswllt
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch ag un o'r isod:
Prifathro: Mr Arwyn Williams
Cyfeiriad:
Ysgol Tryfan,
Lôn Powys,
BANGOR,
Gwynedd
LL57 2TU.
Rhif ffôn: 01248 352633
Rhif Ffacs: 01248 361264
E-bost: swyddfa@tryfan.gwynedd.sch.uk
© 2021 Hawlfraint Ysgol Tryfan. Gwefan gan Delwedd