Cyfeillion Ysgol Tryfan yw’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon sy’n brysur yn ystod y flwyddyn yn cynnal digwyddiadau i gefnogi’r ysgol a’i chymuned, a chodi arian ar gyfer gweithgareddau addysgol.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol! Mae ein tudalen Facebook, Cyfeillion Ysgol Tryfan, yn rhoi gwybodaeth am y gweithgareddau codi arian diweddaraf. Ac mae gennym gyfrif Twitter hefyd, sef @cyfeillion. Cadwch lygad am y newyddion diweddaraf, yn enwedig y cyfleoedd i ennill gwobrau hyfryd yn ystod y flwyddyn.
Rydym hefyd wedi creu cyfrif PayPal er mwyn i gefnogwyr y cyfeillion gyfrannu neu dalu am rafflau ac ati – sg@tryfan.gwynedd.sch.uk.
Criw bychan o wirfoddolwyr yw’r Cyfeillion, ac mae croeso cynnes i unrhyw riant ymuno â’r criw.
Dyma swyddogion y Cyfeillion am 2024/25:
Cadeirydd: Llinos Jukes
Ysgrifennydd: Beverley Jones
Trysorydd: Mari James
Gellir cysylltu â’r Cyfeillion trwy swyddfa@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru / 01248 352633
Rhif Elusen: 1068366
Enw Elusen: CYFEILLION YSGOL TRYFAN/TRYFAN SCHOOL P.T.A.
Pennaeth: Dr Geraint Owen Jones
Cyfeiriad:
Ysgol Tryfan,
Lôn Powys,
BANGOR,
Gwynedd
LL57 2TU.
Rhif ffôn: 01248 352633
E-bost: swyddfa@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru
© 2025 Hawlfraint Ysgol Tryfan. Gwefan gan Delwedd