Gair o groeso
Ysgol uwchradd 11-18 oed yn Ninas Bangor yw Ysgol Tryfan sy'n addysgu'r mwyafrif helaeth o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy hynny rydym yn ymfalchïo yn y fraint o ddatblygu plant ac oedolion ifanc Bangor a’r cyffiniau yn ddinasyddion cwbl ddwyieithog.
Ein nod fel ysgol yw sicrhau fod yr holl ddisgyblion a myfyrwyr a ddaw atom yn cyflawni eu potensial ac yn ein gadael yn ddinasyddion egwyddorol a pharchus gyda’r sgiliau i gyfrannu’n llawn at gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain.
Mae tîm o athrawon a staff cefnogi Ysgol Tryfan yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth i fywydau’r disgyblion dan ein gofal, a chynigiwn gwricwlwm eang, amrywiol a heriol ar gyfer pob oedran. Mae’r disgyblion yn mwyhau amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol er mwyn datblygu eu diddordebau ehangach a chyfoethogi eu bywydau. Rydym yn argyhoeddedig fod gan bob disgybl yn yr ysgol botensial aruthrol a gweithiwn yn angerddol i feithrin y talentau hyn, gan fod Ysgol Tryfan ‘yn cefnogi, yn ysbrydoli - yn deulu’.
Ymfalchïwn yn safonau academaidd cyson uchel yr ysgol, ac yr un pryd, fel ysgol fechan, sicrhawn fod y gofal gorau posib yn cael ei roi, gan ganiatáu i bob unigolyn ffynnu a theimlo’n ddiogel.
Rwy’n falch iawn o’r fraint o gael bod yn bennaeth ar Ysgol Tryfan, gan weithio gyda thîm ymroddedig o staff, disgyblion a rhieni. Dim ond trwy’r cydweithio hwn y gellir sicrhau’r awyrgylch cadarnhaol yma er mwyn i ni gyflawni’n gweledigaeth fel ysgol gyda phawb yn dysgu.
Gan ddiolch o galon i chi am eich cefnogaeth i’r ysgol.
Pennaeth: Dr Geraint Owen Jones
Cyfeiriad:
Ysgol Tryfan,
Lôn Powys,
BANGOR,
Gwynedd
LL57 2TU.
Rhif ffôn: 01248 352633
E-bost: swyddfa@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru
© 2023 Hawlfraint Ysgol Tryfan. Gwefan gan Delwedd