Mae Cyngor Ysgol Tryfan yn sicrhau fod llais y dysgwr yn cael ei glywed ac yn dylanwadu ar bob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae cynrychiolaeth o ddysgwyr o bob blwyddyn ysgol ar y cyngor ac fe’i harweinir gan swyddogion o’r 6ed dosbarth. Mae’r Cyngor Ysgol hefyd yn adrodd i Gorff Llywodraethu’r ysgol yn dymhorol trwy’r Disgyblion Lywodraethwyr.
Atgyfnerthir gwaith y Cyngor Ysgol gan rwydwaith o is-bwyllgorau sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol allweddol, gan sicrhau fod Llais Dysgwyr Ysgol Tryfan yn cael ei glywed o ran prif flaenoriaethau’r ysgol.
Pennaeth: Dr Geraint Owen Jones
Cyfeiriad:
Ysgol Tryfan,
Lôn Powys,
BANGOR,
Gwynedd
LL57 2TU.
Rhif ffôn: 01248 352633
E-bost: swyddfa@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru
© 2023 Hawlfraint Ysgol Tryfan. Gwefan gan Delwedd